Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Tachwedd 2017
Amser:
09.30 -
10.11
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Paul Davies AC Llyr Gruffydd AC |
Comisiynydd: |
Syr Roderick Evans QC - Comisiynydd Safonau |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Thomas (Swyddfa'r Comisiynydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Ystyriodd yr Aelodau Ragair drafft y Cadeirydd i'r adroddiad a nododd y bydd adroddiad drafft terfynol yn cael ei ddosbarthu y tu allan i'r Pwyllgor.
3.1 Rhoddodd Ymgynghorydd Cyfreithiol y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i ychwanegu at ei bapur ar S36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
3.2 Rhoddodd y Comisiynydd Safonau ei farn ar yr adran berthnasol ac awgrymodd ei fod yn siarad â'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i ganfod a yw'n teimlo bod y trefniadau presennol yn foddhaol. Awgrymodd hefyd iddo edrych yn ôl ar y Protocol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Comisiynydd Safonau, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron ar Ymchwilio i Droseddau Honedig o dan Adran 36(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru.
3.2 Gofynnodd y Pwyllgor i'r Comisiynydd Safonau fynd yn ei flaen fel yr awgrymwyd a chytunwyd i ailystyried y mater hwn unwaith y bydd wedi canfod y wybodaeth.